Dociau Manceinion
cyfres o ddociau ym Manceinion
Roedd Dociau Manceinion yn gyfres o naw o ddociau ym Manceinion a Salford ar ben dwyreiniol Camlas Llongau Manceinion. Agorwyd y dociau ym 1894. Defnyddiwyd y dociau gan longau arfordirol a gan longau o bell, yn arbernnig llongau o'r Llynnoedd Mawr. Roedd 2 ran i’r dociau; 4 ohonynt i’r gorllewin (Dociau Salford), a 5 i’r dwyrain (Dociau Pomona) er ni chyflawnwyd y 5ed ononynt. Erbyn y 1970au, doedd y gamlas ddim yn ddigon eang ar gyfer llongau modern, a chaewyd y dociau ym 1982.[1]
![]() | |
Math | doc ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.4666°N 2.2755°W ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d6/ManchesterDocks01LB.jpg/260px-ManchesterDocks01LB.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/ff/ManchesterDocks02LB.jpg/260px-ManchesterDocks02LB.jpg)
Prynwyd y tir ar ochr Salford y gamlas gan Gyngor Dinas Salford ym 1984 ac adeiladwyd stad Ceiau Salford, sydd yn cynnwys stiwdios y BBC a’r Ganolfan Celf Lowry.[2]