Dogni

(Ailgyfeiriad o Dogni bwyd)

Mae dogni yn ddull o rannu bwyd a hanfodion eraill pan fônt yn brin, fel arfer yn ystod cyfnod o argyfwng. Ceisir rhannu'r hanfodion i'w gwerthu mewn sypiau llai nag arfer er mwyn iddynt bara'n hirach.

Llyfr o stampiau dogni ar gyfer teulu yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Ceir nifer o resymau pam fod llywodraeth yn mynnu dogni pethau e.e. rhyfel neu brinder olew. Heb ddogni, byddai'r pris yn codi'n uchel iawn, ac mae'n ddull teg o rannu i bawb yn gyfartal. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, arferid dogni bwyd, olew a dillad - roedd sanau neilon yn brin iawn; byddai rhai merched yn peintio llinell ddu i lawr ochrau eu coesau iddynt edrych fel sanau neilon.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Cymru a'r Ail Ryfel Byd. BBC. Adalwyd ar 9 Mai 2012.