Dolen lawes
Mae dolennau llewys yn dlysau sy'n cael eu defnyddio i gau'r llewys ar grysau ffurfiol. Gall dolennau llewys gael ei gwneud o nifer o wahanol ddeunyddiau, gan gynnwys gwydr, carreg, lledr, metel, metel prin neu gyfuniad o'r rhain. Mae'r dolennau fel arfer yn cael eu cau trwy begiau troi yn seiliedig ar y dyluniad ar y blaen. Mae rhai mathau i'w cael sy'n defnyddio cadwyn neu ddarn cefn nad yw'n symud. Gellir addurno rhan flaen y dolennau gyda cherrig gwerthfawr, darluniau mewn enamel, neu gael eu dylunio mewn ffurf dau neu dri dimensiwn.
Math | gem |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae dolennau llewys wedi eu dylunio i gael eu defnyddio ar grysau sydd a thyllau botwm ar ddwy ochr y llawes, ond sydd heb fotymau. Gall rhain fod yn llewys sengl neu ddwbl sydd wedi eu plygu am yn ôl ("Ffrengig"), a chael eu gwisgo naillai yn "cusanu". gyda'r ddau ymyl yn wynebu allan, neu mewn "steil-casgen", gydag un ymyl yn wynebu am allan a'r llall am i mewn fel bod y naill dros y llall. Yn yr Unol Daleithiau, daeth y "steil-casgen" yn boblogaidd trwy ddylanwad clown a diddanwr yn y 19eg ganrif o'r enw Dan Rice. Llewys sy'n "cusanu" sydd fel arfer yn cael eu ffafrio.