Don Shepherd
Cyn-gricedwr fu'n chwarae i Glwb Criced Morgannwg oedd Donald John Shepherd, a adwaenir fel Don Shepherd (12 Awst 1927 – 18 Awst 2017)[1]. Ef oedd y bowliwr mwyaf llwyddiannus o ran wicedi yn hanes Morgannwg. Cymerodd 2,218 o wicedi dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o 22.32, gan gynnwys 2,174 dros Forgannwg, y nifer fwyaf yn hanes y sir. Ef sy’n dal y record ar draws y siroedd am y nifer fwyaf o wicedi dosbarth cyntaf gan fowliwr sydd heb chwarae dros Loegr (2,218 – gan gynnwys yr MCC) – mae’n rhif 22 ar y rhestr, islaw 21 o chwaraewyr rhyngwladol ac uwchlaw cricedwyr rhyngwladol di-ri.[2]
Don Shepherd | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1927 Port Einon |
Bu farw | 18 Awst 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr |
Gwobr/au | Cricedwr y Flwyddyn, Wisden |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Criced Morgannwg |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed ef ym Mhort Einon, Penrhyn Gŵyr, a dechreuodd chwarae i dîm Morgannwg yn 1950, gan gymeryd 120 o wicedi y tymor hwnnw. Yn nhymor 1956, cymerodd 177 o wicedi. Roedd yn rhan o dîm Morgannwg pan enillasant bencampwriaeth y siroedd yn 1969.
Roedd e'n aelod o dîm Morgannwg a drechodd Awstralia ddwywaith - yn 1964, ac yna fel capten yn 1968.
Ymddeolodd yn 1972 a bu'n gyd-sylwebydd a dadansoddwr criced i BBC Cymru am dros 30 mlynedd, gan sylwebu o San Helen yn 2017 cyn ei farwolaeth yn 90 oed. Fe fu hefyd yn Llywydd ar Orielwyr San Helen, clwb cefnogwyr yn Abertawe a’r de orllewin.[3]
Yn 2024, mae arddangosfa o’i yrfa yn yr Amgueddfa Griced yng Ngerddi Sophia, gan gynnwys ei ddillad a’i gapiau amrywiol, ynghyd â fideo sy’n cynnwys cyfweliad â’r gŵr ei hun.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyn-gricedwr Morgannwg, Don Shepherd wedi marw yn 90 oed , BBC Cymru Fyw, 19 Awst 2017.
- ↑ Y cyn-gricedwr a sylwebydd criced Don Shepherd wedi marw , Golwg360, 19 Awst 2017. Cyrchwyd ar 21 Awst 2017.
- ↑ Teyrngedau i ‘Shep’, un o fawrion Clwb Criced Morgannwg , Golwg360, 20 Awst 2017. Cyrchwyd ar 21 Awst 2017.