Donald Winch
Hanesydd economaidd o Loegr oedd Donald Norman Winch (15 Ebrill 1935 – 12 Mehefin 2017).[1]
Donald Winch | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ebrill 1935 Fulham |
Bu farw | 12 Mehefin 2017 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, Cymrawd yr Academi Brydeinig |
Ganwyd yn Llundain, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Sutton. Astudiodd yn Ysgol Economeg Llundain (LSE) ac enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Princeton. Addysgodd ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley am flwyddyn cyn iddo ddychwelyd i Brydain i ddarlithio ar bwnc economeg ym Mhrifysgol Caeredin ac yna Prifysgol Sussex. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Classical Political Economy and Colonies, ym 1965. O 1969 hyd 2000, Winch oedd athro hanes meddwl economaidd ym Mhrifysgol Sussex. Ymhlith ei lyfrau eraill mae Economics and Policy (1969), Adam Smith's Politics (1978), That Noble Science of Politics: A Study in Nineteenth-Century Intellectual History (gyda John Burrow a Stefan Collini; 1983), Riches and Poverty: An Intellectual History of Political Economy in Britain, 1750-1834 (1996), a Wealth and Life: Essays on the Intellectual History of Political Economy in Britain, 1848-1914 (2009). Ysgrifennodd hefyd Malthus: A Very Short Introduction yng nghyfres Gwasg Prifysgol Rhydychen yn 2013.
Etholwyd yn aelod o'r Academi Brydeinig ym 1986, ac roedd yn ysgrifennydd cyhoeddi'r Gymdeithas Economaidd Frenhinol o 1971 i 2016.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Stefan Collini. Donald Winch obituary, The Guardian (23 Mehefin 2017). Adalwyd ar 23 Mehefin 2017.