Doreen Carwithen

cyfansoddwr a aned yn 1922

Roedd Doreen Mary Carwithen (15 Tachwedd 19225 Ionawr 2003) yn gyfansoddwraig Seisnig, sy'n fwyaf adnabyddus am ei cherddoriaeth glasurol a ffilm. Roedd hi'n ail wraig i'r cerddor Saesneg William Alwyn, ac roedd hi'n cael ei hadnabod hefyd fel Mary Alwyn.

Doreen Carwithen
Ganwyd15 Tachwedd 1922 Edit this on Wikidata
Haddenham Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ionawr 2003 Edit this on Wikidata
Forncett Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm Edit this on Wikidata
PriodWilliam Alwyn Edit this on Wikidata

Cafodd Doreen Carwithen ei geni yn Haddenham, Swydd Buckingham, yn ferch i athrawes gerdd. Yn 16 oed dechreuodd gyfansoddi.

Yn 1941 aeth Carwithen i'r Academi Gerdd Frenhinol. Roedd hi'n aelod o ddosbarth cytgord y cyfansoddwr enwog William Alwyn, a ddechreuodd ddysgu ei chyfansoddiad. Ysgrifennodd yr agorawd ODTAA (One Damn Thing After Another), a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Covent Garden gan Adrian Boult ym 1947. Daeth yn ysgrifenyddes Alwyn ym 1961. Priododd a Alwyn ym 1975.[1]

Cafodd Mary Alwyn fel ei henw priod; Mary oedd ei henw canol. Gweithiodd fel Is-Athro Cyfansoddi yn yr RAM. Ar ôl marwolaeth ei gŵr ym 1985, sefydlodd Archif William Alwyn a Sefydliad William Alwyn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Burton-Page, Piers (2004). "Alwyn, William (1905–1985)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. Online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/55919. Cyrchwyd 2015-01-05.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)