Awdur Americanaidd yw Dorothy Allison (ganwyd 11 Ebrill 1949) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, nofelydd, awdur a ffeminist. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd mae: Trash: Short Stories, Bastard Out of Carolina, Skin: Talking About Sex a Class & Literature.

Dorothy Allison
Ganwyd11 Ebrill 1949 Edit this on Wikidata
Greenville, De Carolina Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Talaith Florida
  • Coleg Eckerd
  • New School for Social Research Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, nofelydd, ysgrifennwr, ymgyrchydd dros hawliau merched Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTrash: Short Stories, Bastard Out of Carolina, Skin: Talking About Sex, Class & Literature, Cavedweller Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadToni Morrison Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Lambda Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.dorothyallison.com Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Greenville, De Carolina ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Talaith Florida a Choleg Eckerd.[1][2][3]

Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar frwydr dosbarth, cam-drin rhywiol, cam-drin plant, ffeministiaeth a lesbiaeth. Mae hi'n "femme lesbiaidd" hunan-ddynodedig.[4] Enillodd nifer o wobrau am ei hysgrifennu, gan gynnwys sawl Gwobr Lenyddol Lambda. Yn 2014, etholwyd Allison i fod yn aelod yng Nghymrodoriaeth Awduron y De (Fellowship of Southern Writers).[5]

Magwraeth a cham-drin rhywiol golygu

Ganwyd Dorothy E. Allison yn Greenville, De Carolina i Ruth Gibson Allison, a oedd yn bymtheg ar y pryd. Roedd ei mam sengl yn wael, yn gweithio fel gweinyddes a chogydd. Priododd Ruth yn y pen draw, ond pan oedd Dorothy yn bump oed, dechreuodd ei llystad ei cham-drin yn rhywiol. Parhaodd y cam-drin hwn am saith mlynedd. Yn 11 oed dywedodd Dorothy wrth berthynas amdano, a ddywedodd wrth ei mam. Gorfododd Ruth ei gŵr i adael Dorothy yn llonydd, ac arhosodd y teulu gyda'i gilydd. Ni pharhaodd y seibiant yn hir, wrth i'r llystad ailddechrau'r cam-drin rhywiol, gan barhau am bum mlynedd arall. Dioddefodd Dorothy yn feddyliol ac yn gorfforol, gan ddal gonorrhoea na chafodd ei ddiagnosio a'i drin nes ei bod yn ei 20au a olygai na allai gael plant.[6]

Symudodd teulu Allison i ganol Florida i ddianc rhag dyled. Tystiodd Allison i nifer o aelodau'r teulu farw oherwydd tlodi eithafol. Hi oedd y person cyntaf yn ei theulu i raddio o'r ysgol uwchradd, gan lwyddo fel myfyriwr er gwaethaf bywyd anhrefnus ei chartref. Cymhwysodd fel 'Ysgolor Teilyngdod Cenedlaethol'. Yn 18 oed, gadawodd ei chartref a chofrestru yn y coleg.

Coleg golygu

Yn gynnar yn y 1970au, mynychodd Allison Goleg Presbyteraidd Florida (Coleg Eckerd bellach) ar ysgoloriaeth Teilyngdod Genedlaethol. Tra yn y coleg, ymunodd â mudiad i fenywod a dywed mai "ffeministiaid milwriaethus" a anogodd hi i ysgrifennu. Ar ôl graddio gyda gradd B.A. mewn anthropoleg, dechreuodd astudiaethau graddedig mewn anthropoleg ym Mhrifysgol Talaith Florida.[7]

Sgwennu golygu

Ffilmyddiaeth golygu

  • Bastard Out of Carolina (1996)
  • 2 or 3 Things But Nothing for Sure (1997)
  • After Stonewall (1999)
  • Cavedweller (2004), cynhyrchwyd gan Lisa Cholodenko gyda Aidan Quinn a Kyra Sedgwick

Llwyfan golygu

  • Cavedweller (2003), addaswyd i'r llwyfan gan Kate Moira Ryan, a fferfformiwyd yn y New York Theatre Workshop

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lenyddol Lambda .

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12150923s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12150923s. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: "Dorothy Allison". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Dorothy Allison". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Dorothy Allison". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Ed. Burke, Jennifer Clare (2009). Visible: A Femmethology Vol. 2. Homofactus Press. t. 44. ISBN 978-0978597351.
  5. "Dorothy Allison". The Fellowship of Southern Writers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Awst 2015. Cyrchwyd 20 Mawrth 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Contemporary Authors Online. Detroit, Michigan: Gale. 2004. ISBN 978-0-7876-3995-2.
  7. "Depth, From The South At Hamilton College, Dorothy Allison Offers Crowd A Sip Of Reality." Laura T. Ryan Staff. The Post-Standard (Syracuse, NY). STARS; p. 21, 22 Hydref 2000