Drama

gwaith celf a fwriedir ar gyfer ei berfformio, math ffurfiol o lenyddiaeth

Math arbennig o ffuglen a gyflwynir trwy berfformiad yw drama. Tardda'r gair o'r term Groeg sy'n meddwl "gweithred" (Groeg Clasurol: δράμα, dráma), sy'n tarddio o "i wneud" (Groeg Clasurol: δράω, dráō). Yn wahanol i fathau eraill o lenyddiaeth, mae strwythur testunau drama yn cael eu dylanwadu'n uniongyrchol gan dderbyniad torfol a chynhyrchiadau cydweithredol.

Mae'r ddau fwgwd a gysylltir â drama yn cynrychioli rhaniad cyffredinol traddodiadol rhwng comedi a thrasiedi, dwy brif ffurf y ddrama. Maent yn symbolau o'r Awenau Groegaidd hynafol, Thalia a Melpomene. Thalia oedd yr Awen Gomedi (yr wyneb sy'n chwerthin) tra Melpomene oedd yr Awen Drasig (yr wyneb sy'n crio).

Mae'r defnydd cyfyng o'r term "drama" i ddynodi math arbennig o berfformiad yn deillio o'r 19g. Mae drama yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at ddarn o waith na sydd yn gomedi nac ychwaith yn drasiedi e.e. Thérèse Raquin gan Émile Zola (1873) neu Ivanov gan Chekhov (1887). Mabwysiadodd astudiaethau ffilm a theledu yr ystyr cyfyng hwn er mwyn defnyddio'r term "drama" ar gyfer eu cyfryngau hwy eu hunain. Defnyddir y term "drama radio" yn y ddwy ystyr - yn wreiddiol cawsant eu darlledu mewn perfformiad byw. Cafodd y term ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio ochr mwy uchel-ael a difrifol byd y radio.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am drama
yn Wiciadur.