Dungeons & Dragons

(Ailgyfeiriad o Dungeons and Dragons)

Gêm chwarae-rôl ffantasi a ddyfeisiwyd yn wreiddiol gan Gary Gygax a Dave Arneson yw Dungeons & Dragons ("Daeardai a Dreigiau").

Gêm Dungeons & Dragons

Daeth y pedwerydd argraffiad o'r gêm allan ym Mehefin 2008. Yn yr argraffiad hwnnw mae'r rheolau wedi cael eu symleiddio ond mae yna lawer o bethau newydd hefyd. Y tri llyfr rheolau craidd yw Llawlyfr y Chwaraewr (Player's Handbook), Llawlyfr yr Angenfilod (Monster Manual) ac Arweinlyfr Meistr y Daeardy (Dungeon Master Guide).

Chwaraeir y gêm gyda disiau (d4, d6, d8, d10, d12 a d20), dalennau cymeriadau a llyfrau. Mae llawer o bobl hefyd yn defnyddio bychanigion (neu ffigurynnau bychain) a teils daeardai.

Mae yna tri byd ymgyrch sy'n cael eu defnyddio yn swyddogol yn y gêm ar hyn o bryd: Y Teyrnasoedd Angof (Forgotten Realms, Eberron a Haul Tywyll (Dark Sun). Roedd Llwydwalch (Greyhawk) wedi cael ei ddefnyddio mewn fersiynau cynt o'r gêm.

Gwefan swyddogol y gêm : Wizards of the Coast

Eginyn erthygl sydd uchod am gêm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.