Rhanbarth yn nwyrain Lloegr yw Dwyrain Anglia (Saesneg: East Anglia). Fe'i enwir ar ôl un o hen deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, sef Teyrnas Dwyrain Anglia, a elwir yn ei thro ar ôl cartref yr Eingl ("Angliaid"), sef Angeln, yng ngogledd yr Almaen. Roedd y deyrnas honno yn cynnwys yr ardaloedd a elwid yn Norfolk a Suffolk, a elwir felly am fod y Daniaid wedi ymgartrefu yno gan ymrannu'n ddwy gangen, y Northfolk a'r Southfolk. Gyda phriodas y dywysoges Etheldreda, daeth Ynys Ely yn rhan o'r deyrnas hefyd. Sefydlwyd y deyrnas yn gynnar yn y 6g ar diriogaeth yr Iceni, un o bobloedd Celtaidd Prydain.

Dwyrain Anglia
Eglwys Cadeiriol Norwich
Mathrhanbarth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.5°N 1°E Edit this on Wikidata
Map
Dwyrain Anglia yn Lloegr

Ni ellir diffinio ffiniau'r rhanbarth yn fanwl yn y cyfnod cynnar. Heddiw, cytunir yn gyffrediniol ei fod yn cynnwys siroedd Norfolk a Suffolk gyda Swydd Gaergrawnt. Ystyrir Essex yn rhan o'r rhanbarth modern gan rai. Nodweddir llawer o'r tirwedd gan ei wastadedd, sy'n cynnwys gwlybdiroedd (fenland yw'r term Saesneg lleol) a chorsydd wedi'u draenio, ond ceir bryniau isel yn Suffolk a Norfolk hefyd. Mae'r prif ddinasoedd yn Nwyrain Anglia yn cynnwys Norwich (y "brifddinas" draddodiadol), Peterborough a Chaergrawnt, ynghyd â dinas esgobol fechan Ely. Mae'r trefi yn cynnwys Ipswich, Colchester a Huntingdon. Lleolir Prifysgol Dwyrain Anglia ar gampws yn Norwich.

Mae Dwyrain Anglia yn rhan o ranbarth ehangach Dwyrain Lloegr. Ffermio a garddwriaeth yw'r prif ddiwydiannau traddodiadol.

Gweler hefyd

golygu