Dwyrain Swydd Dunbarton (etholaeth seneddol y DU)
Mae Dwyrain Swydd Dunbarton yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dwyrain Swydd Dunbarton a Gogledd Swydd Lanark.
Dwyrain Swydd Dunbarton | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Dwyrain Swydd Dunbarton yn Yr Alban. | |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 2005 |
Aelod Seneddol | Amy Callaghan SNP |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Strathkelvin a Bearsden Clydebank a Milngavie Coatbridge a Chryston |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Roedd yma etholaeth o'r un enw, ond ffiniau gwahanol, rhwng 1950 a 1983.
Wedi Etholiad Cyffredinol, Mai 2015, collod Jo Swinson o'r Democratiaid Rhyddfrydol y sedd a chynrychiolwyd yr etholaeth gan John Nicolson, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Ail-gipiwyd y sedd gan Jo Swinson yn 2017. Fe'i disodlwyd eto yn 2019 gan ymgeisydd yr SNP, Amy Callaghan.
Etholaeth | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
2005 | crewyd yr etholaeth | ||
2005 | Jo Swinson | Y Democratiaid Rhyddfrydol | |
2015 | John Nicolson | SNP | |
2017 | Jo Swinson | Y Democratiaid Rhyddfrydol | |
2019 | Amy Callaghan | SNP |
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|