Dylan a Neil
Deuawd canu gwlad Cymraeg o'r Felinheli ydy Dylan a Neil (tad a'r mab, sef Dylan a Neil Parry) sydd wedi cynhyrchu tair albwm dan label Cwmni Recordiau Sain: Y Byd yn ei Le, Y Flwyddyn Dwy Fil a Hen Wlad Llŷn. Maent wedi ymddangos ar BBC2 gyda Dolly Parton a Johnny Cash.[1]
Yn 1972 fe ymunodd Dylan gyda'r grwp 'Y Castaways', a bu gyda'r band am flynyddoedd yn diddanu ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Yn 1978 fe ffurfwyd Traed Wadin gyda Dylan Parry a Neville Jones ar y gitâr ddur. Rhwng 1978 a 1984 rhyddhawyd dwy EP: Tro i’r Fro a Potel Fach o Win a dwy LP, Fory Heb Ei Gyffwrdd a Mynd Fel Bom.
Hyd yma, maent wedi rhyddhau chwech cryno ddisg: 'Heli'n Fy Nghwaed' 1994, 'Hen Wlad Llyn' 1997, 'Y Flwyddyn Dwy Fil' 1999, 'Y Byd Yn Ei Le' 2003, 'Cowbois Yn y P'nawn' 2006 a 'Y Gwynt a'r Glaw' 2009.
Disgyddiaeth golygu
Y Byd yn ei Le golygu
- Bacpacio
- Barbara Ann
- Tro Ar Ol Tro
- Pont Y Cim
- Paned O De
- Cymera Fi'n Ol
- Beibl Mam
- Cajun Jambylai
- Anffyddlon
- Y Di-Waith
- Diwedd Y Gan
- Tren Bach Llyn
Y Flwyddyn Dwy Fil golygu
- Tafarn Y Garddfon
- Awstralia
- Ti F'angen I
- Blws Y Wlad
- Y Flwyddyn Dwy Fil
Hen Wlad Llŷn (efo Traed Wadin) golygu
- Hen Wlad Llyn
- Eiddo I Arall
- Cydio'n Dy Law
- Waunfawr
- Ei Gwen Yn Y Gwin
- Yr Hen Rebel
- Heli'n Fy Ngwaed
- Dyro I Mi
- O Mor Braf Fydd Bod Yn Ol
- Ffrind
- Lliwiau
- Nid Yw'r Hen Bentre Fel Y Bu
- Troi'r Cloc Yn Ol
- Blodau Gwyn
- Potel Fach O Win
- Mynd Fel Bom
- Pys
- Galilea
- Hitio'r Botel
- 'Fory Heb Ei Gyffwrdd
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Gwefan Cwmni Recordiau Sain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-02. Cyrchwyd 2017-02-15.