Mae'r Dyn Marlboro yn rhan o ymgyrch hysbysebu sigarennau Marlboro. Dechreuodd yr ymgyrch yn Unol Daleithiau America a defnyddiwyd symbol y "Dyn Marlboro" o 1954 tan 1999. Leo Burnett gafodd y syniad am y dyn Marlboro ym 1954. Mae'r ddelwedd yn cysylltu cowboi neu gowbois garw yr olwg gydag un sigaret yn unig. Yn wreiddiol, cyflwynwyd y ddelwedd er mwyn poblogeiddio sigarennau gyda ffilteri, a oedd yn cael eu cysylltu ar y pryd gyda menywod.

Logo Marlboro

Dywedir fod yr ymgyrch hysbysebu gan Marlboro yn un o'r ymgyrchoedd hysbysebu mwyaf llwyddiannus erioed. Trawsnewidiwyd agweddau pobl tuag at sigarennau gyda'r slogan 'Mild as May', a gwelwyd cynnydd yn y nifer o ddynion a ysmygai sigarennau gyda ffilteri mewn mater o fisoedd yn unig. Er y bu nifer o Ddynion Marlboro, y cowbois oedd fwyaf poblogaidd. Arweiniodd hyn at yr ymgyrchoedd 'Cowboi Marlboro' a'r 'Gwlad Marlboro'.

Yr actor George Lazenby oedd y Dyn Marlboro yn Ewrop.[1]

Cyfeiriadau golygu