Agor y brif ddewislen

Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol

Mae Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (Saesneg: International Standard Name Identifier ('ISNI') yn ddull o adnabod hunaniaeth unigryw cyfrannwyr i gyfryngau megis y we, llyfr, rhaglenni teledu neu albymau sain. Mae'r dynodwr a ddefnyddir yn cynnwys 16 digid rhifol wedi'i rannu'n bedwar tamaid.

Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol
Enw llawn Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol (International Standard Name Identifier)
Talfyriad ISNI
Cyflwynwyd 15 Mawrth 2012
Corff safoni ISNI-IA
Nifer o ddigidau 16
Enghraifft 000000012146438X
Gwefan isni.org/

Fe'i datblygwyd gan Y Mudiad Rhyngwladol dros Safoni fel Safon Rhyngwladol Ddrafft[1] yn gyntaf cyn ei dderbyn yn ffurfiol ar 15 Mawrth 2012. Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng enwau pobl (yn enwedig o fewn y cyfryngau) y gellid, fel arall, eu cymysgu.

ORCIDGolygu

Mae dynodwyr ORCID (Open Researcher and Contributor ID) yn flociau o ddynodwyr ISNI a ddefnyddir ar gyfer y byd academaidd yn bennaf.[2] a gaiff ei weinyddu gan gorff cwbwl wahanol.[2] Gall ymchwilwyr yma greu a hawlio dydnodwyr ORIC eu hunain.[3] Mae'r ddau fudiad yn cydweithio'n agos a'i gilydd.[2][3]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Draft International Standard 27729; adalwyd 15 Hydref 2014
  2. 2.0 2.1 2.2 "What is the relationship between ISNI and ORCID?". About ORCID. ORCID. Cyrchwyd 29 Mawrth 2013.
  3. 3.0 3.1 "ISNI and ORCID". ISNI. Cyrchwyd 29 Mawrth 2013.

Dolennau allanolGolygu