Cerdd ar fesur rhydd yw dyri (lluosog: dyrïau), gyda'r llinellau'n acennu'n rheolaidd ac iddi weithiau gyffyrddiadau cynganeddol ac weithiau cynghanedd gyflawn.[1]

Ceir enghreifftiau o'r ddyri yng ngwaith rhai o feirdd yr 17g, e.e. Wiliam Phylip (1579-1669), awdur Carolau a Dyrïau Duwiol.[2]

Cydiodd Iolo Morganwg yn nhraddodiad y ddyri a'i gwneud yn un o'r 'Pedwar Ansawdd ar Hugain' ar Gerdd Dafod ac iddi dras hynafol, ond rhan o ffugwaith Iolo yw hynny.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Morgan D. Jones, Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer, 1974), tud. 61.
  2. Termau Iaith a Llên, tud. 61.
  3. Meic Stephens, Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. 'dyri'.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.