Cerdd Gymraeg gan William Crwys Williams yw Dysgub y Dail .[1] Mae'r gerdd yn delyneg sydd yn gerdd rhydd, ac fe'i defnyddir yn y Cwrs Barddoniaeth Llenyddiaeth Cymraeg TGAU.

Cynnwys

golygu

Cafodd Crwys ei ysgogi i gyfansoddi'r gerdd hon pan welodd storm hydrefol yn achosi ychydig o ddifrod a llanast, neu'n fwy na thebyg gan freuder a byrder bywyd. Mae'n manylu am effaith y storm ac yn disgrifio hen ddyn yn brysur yn sgubo'r dail y mae'r gwynt wedi chwythu. Drwy'r hen ddyn amlyga'r thema o henaint a hyd yr einioes. O hyn ymlaen, mae'r bardd yn gallu cydblethu'r ddwy thema'n effeithiol, sef henaint a thymor yr hydref.

Yn y pennill cyntaf mae'r bardd yn sôn am wynt yr hydref yn chwythu'n gryf nes bwrw'r dail oddi ar y coed, yna gwelwn yr henwr yn brwsio'r dail yn bentyrrau taclus y bore trannoeth. Defnyddia'r bardd air cyfansawdd "henwr" sy'n ddisgrifiadol iawn. Mae'r dref goncrid gadarn yn crynnu i'w sail gan ddychryn.

Yn yr ail bennill cawn ddisgrifiad gwych a manwl o'r hen ddyn gan ei fod mewn cyflwr gwael, fel y dail. Mae'r dyn i'w weld wedi crymanu, wedi plygu wrth frwsio, ac mae ei henaint yn amlwg wrth i'w gorff symud yn araf: "Cerdd yn grwm a blin". Dim ond deilen ydyw, wedi'r "storm o gnawd" (chwedl T H Parry Williams) basio, nid yw'n ddim ond deilen.

Mae hyn yn gwneud i ni feddwl: nad ydyn ni fawr mwy na dail, wedi'r cwbwl i gyd! Ac er gwaetha ein bywyd soffistigedig, trefol.

Yr un olygfa sydd yn y trydydd pennill ond rydym yn sylweddoli mai'r gorffwys ar ddiwedd ei ymdrech sy'n bwysig iddo. Ynghanol y gwaith fe orffwysa'r hen ddyn ac fe welwn cymaint yw'r straen arno—mae gorffwys yn ystod y dydd yn hollbwysig i'r henoed—a sylweddolwn nad yw e'n fawr mwy na'r dail eu hunain. Mae trasiedi'r gerdd hon yn y ddwy linell olaf:

"Hydref eto, a bydd yntau
Gyda'r dail."

Hynny yw, yn ei fedd: pridd i'r pridd, lludw i'r lludw. Dyma gasgliad y delyneg: mae'r bardd yn rhagweld mai gyda'r dail y bydd yr hen ddyn y flwyddyn ganlynol, wedi marw a'i gorff yntau wedi claddu yn y ddaear. Mae'n debyg mai dweud wrthon ni mae'r bardd mai dyma realiti bywyd. Mae'r gerdd yn brin o eiriau, mae'r bardd yn dweud heb ddweud. Cynildeb yw'r gair am hyn.

Dyma gerdd drist mewn gwirionedd, ond oherwydd y naws a theimlad hamddenol sydd yn y gerdd, dydy marwolaeth yr hen ddyn ddim yn sioc i ni ar y diwedd. Er hyn, sylweddolwn pa mor fregus yw bywyd a thrwy ddefnyddio delwedd gref yr hydref yn ymgorfforiad o henaint fe ddengys y bardd ei agwedd at gylch bywyd.

Telyneg yw mesur y gerdd hon, sef mesur poblogaidd ar gyfer cerddi natur: cân fer, gryno a phersonol ei naws. Ffurf yw hon sydd yn galluogi'r bardd i ddisgrifio pwnc neu beth arbennig, gyda chasgliad am yr hyn mae wedi ei weld neu deimlo.

O ran mydr, rhennir y gerdd yn dri phennill o bedair llinell yr un—wyth, pump, wyth, a thair sill. Mae pob pennill yn odli'n rheolaidd hefyd, ar batrwm ABCB.

Arddull a thema

golygu

Mae'r gerdd hon yn llawn o ddelweddau a lluniau. Sylwer ar y modd y llwyddodd i gydblethu'r ddwy thema'n gelfydd: henaint a'r hydref. Yn y pennill cyntaf ceir trosiad, neu esiampl o bersonoli, wrth i'r bardd ddisgrifio'r gwynt yn rhuo; llew neu anifail arall sydd fel arfer yn rhuo. Defnyddia'r bardd gyffelybiaeth yn yr ail bennill wrth ddisgrifio'r hen ddyn: "Megis deilen grin yn ymlid / Deilen grin." Mae'r dyn yn hen fel deilen rychiog, grin yn ymladd yn erbyn y dail a chwythwyd wrth geisio eu clirio.

Neges ac agwedd y bardd

golygu

Dyma gerdd drist ond un sy'n ymdrin â phwnc realistig iawn. Yn bendant, ceisia Crwys dynnu ein sylw at ba mor fregus yw bywyd a defnyddia'r ddelwedd o'r hydref i gynrychioli tymor pan mae pethau'n dod i ben ac yn dirywio fel adlewyrchiad o fywyd yr hen ddyn. Bydd yntau efallai wedi gorffen ei fywyd erbyn amser hyn y flwyddyn nesaf.

Mae arddull y bardd o gymharu'r ddeilen gyda'r hen ddyn yn effeithiol dros ben. Mae'r thema yn apelio aton ni oherwydd bod marwolaeth a henaint yn rhan annatod o fywyd ac er cael y profiad o golli rhai annwyl, mae cylch bywyd yn mynd yn ei flaen.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Mae'r gerdd ar wefan 'Byd y Beirdd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-13. Cyrchwyd 2009-01-13.