Agor y brif ddewislen

Gweinidog a Bardd Cymraeg oedd Evan Gwyndaf Evans neu "Gwyndaf" (7 Mawrth 1913 - 10 Mawrth 1986)[1]. Bu'n weinidog yng Nghapel Tabernacl, Llanelli.

E. Gwyndaf Evans
Ganwyd 7 Mawrth 1913 Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Mawrth 1986 Edit this on Wikidata (73 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth bardd Edit this on Wikidata

Bu'n athro ysgrythyr yn Ysgol Brynrefail, Llanrug o 1957 hyd 1978[1].

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935 gyda'r gerdd Magdalen[2], y tro cyntaf i gerdd gynganeddol vers libre ennill y gystadleuaeth. Bu'n Archdderwydd rhwng 1966 a 1969.

Yn frodor o bentref Llanfachreth, Gwynedd, daeth i sylw Cymru fel bardd pan enillodd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 1934. Yn 1935 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl 'Magdalen'. Bu'n Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol o 1966 hyd 1968.[3]

Arbrofai ar ysgrifennu vers libre mewn cynghanedd ac roedd yn ganwr penillion adnabyddus hefyd. Dim ond un gyfrol o gerddi a gyhoeddodd, sef Magdalen a cherddi eraill, ond cyfrannai'n gyson i gylchgronau Cymraeg ar hyd ei oes.[3]

LlyfryddiaethGolygu

  • Magdalen a cherddi eraill (Gwasg Gomer, 1962)
  • Cerddi Gwyndaf: y casgliad cyflawn (Dinbych: Gwasg Gee, 1987 ISBN 0707401275)

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Y Parch E Gwyndaf Evans BA Eco'r Wyddfa Ebrill 1986 Tud:3
  2. Gwefan yr Eisteddfod Enillwyr y Gadair adalwyd 21 Tachwedd 2017
  3. 3.0 3.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.