Safon rhyngwladol yw EMV (Europay, MasterCard a Visa) ar gyfer sicrhau bod cerdiau cylched gyfannol (cerdyn sglodyn) yn medru rhyngweithio â therfynellau talu (POS) a pheiriannau twll yn y wal (ATM), er mwyn gwirio trafodaethau cerdiau credyd a debyd.

EMV
Math o gyfrwngsafon technegol, electronic toll collection system Edit this on Wikidata
PerchennogEMVCo Edit this on Wikidata
GweithredwrEMVCo Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Terfynell talu EMV - di-gyswllt

Ymdrech ar y cyd rhwng Europay, MasterCard a Visa, yw EMV, i sicrhau diogelwch a rhyng-ddefnydd byd-eang o ddulliau talu gyda cherdyn sglodyn. Diffinnir a rheolir y safonnau gan y cwmni EMVCo. Ymunodd JCB (o Japan) â'r mudiad yn Rhagfyr 2004, American Express yn Chwefror 2009 a CUP (China UnionPay) ym Mai 2013. (Nodyn - cyfunwyd Europay a MasterCard yn 2002).

Mae systemau cerdiau silicon sy'n seiliedig ar safonnau EMV yn cael eu mabwysiadu ar draws y byd. Yr enw mwyaf cyfarwydd ar eu cyfer yn y wasg yw "Chip and PIN", ond nid oes angen PIN pob tro - mae cerdiau di-gyswllt yn dechrau dod yn fwy cyffredin ar gyfer taliadau bychain.

Cyfeiriadau

golygu