Echtrae
Term traddodiadol yn llenyddiaeth Iwerddon sy'n golygu 'taith (antur)' neu 'antur' yw echtrae (Gwyddeleg, ynganer echtre) neu echtra. Yn y rhestrau traddodiadol o'r chwedlau Gwyddelig mae'n cyfeirio at deithiau arwyr i barthau diarth a rhyfeddol sy'n gorwedd y tu hwnt i fyd dynoliaeth.
Mae'r echtrai yn ffurfio dosbarth arbennig o chwedlau sy'n gyffelyb eu naws i ddosbarth yr immramau. Y brif wahaniaeth rhyngddynt yw bod yr imrammai yn canolbwyntio ar y daith (mordaith fel rheol) tra bod yr echtrai yn disgrifio anturiaethau'r arwr neu'r arwyr yn yr Arallfyd.
Rhai echtrae
golygu- Echtrae Chonnlai ('Taith Antur Conla'), rhan o'r Cylch Hanesyddol.
- Echtrae Cormaic i Tir Tairngiri ('Taith Antur Cormac yn Nhir Addewid')
- Echtrae Nerai ('Taith Antur Neri'), un o ragchwedlau (remscéla) y Táin Bó Cuailgne sy'n dyddio i'r 10fed/11g efallai.
Cyfeiriadau
golyguFfynonellau
golygu- Bernhard Maier, Dictionary of Celtic religion and culture (Boydell & Brewer, 1997)
- J. E. Caerwyn Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon (Caerdydd, 1958)