Economi'r Deyrnas Unedig

Economi'r Deyrnas Unedig oedd y 7fed fwyaf yn 2011 a'r 5ed erbyn 2016 y byd yn nhermau cynnyrch mewnwladol crynswth marchnadol.[1] Yn 2017, economi'r DU oedd y chweched fwyaf yn nhermau paredd gallu prynu (PGP) ac o fewn Ewrop, hi oedd yr ail fwyaf, yn dilyn economi'r Almaen. Mae'n gyfrifol am 4% o PGP y byd.

Dywedir fod y DU yn un o wledydd mwyaf globaleiddiedig y byd ac un o brif ganolfannau ariannol y byd yw ei phrifddinas, Llundain, sy'n dilyn dinasoedd megis Efrog Newydd, Hong Cong, a Singapôr.[2]

Yn 2015, y DU oedd 9fed allforiwr mwya'r byd a'r 6ed mewnforiwr.

Yn y 1980au, dan Lywodraeth Margaret Thatcher, fe breifateiddwyd y mwyafrif o fentrau yn y sectorau diwydiannol a gwasanaethau oedd dan berchnogaeth y wladwriaeth a oedd wedi'u gwladoli ers y 1940au. Nawr prin yw'r diwydiannau neu fusnesau a berchennir gan y DU – un enghraifft, brin, yw'r Post Brenhinol.

Yn y blynyddoedd diweddar (2017) gwelwyd y twf economaidd mwyaf yn economi Prydain ers dros 150 mlynedd; mae'r economi Brydeinig wedi tyfu ym mhob chwarter ers 1992. Mae'n un o economïau cryfaf yr UE ydyw yn nhermau chwyddiant, cyfraddau llog, a diweithdra, sydd i gyda yn aros yn gymharol isel. O ganlyniad mae gan y Deyrnas Unedig, yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), y seithfed lefel uchaf o CMC y pen yn yr Undeb Ewropeaidd yn nhermau paredd gallu prynu, ar ôl Lwcsembwrg, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Denmarc, Awstria, a'r Ffindir. Ond, mae ganddi lefelau uwch o anghydraddoldeb incwm na nifer o wledydd Ewropeaidd eraill. Hefyd mae gan y DU y diffyg cyfrif cyfredol trydydd fwyaf yn y byd, er gwaethaf cyllidau olew eang.[angen ffynhonnell]

Crynodeb golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Brazilian economy overtakes UK's, says CEBR. BBC (26 Rhagfyr 2011).
  2. (Saesneg) The Global Financial Centres Index 2 (Medi 2007). Adalwyd ar 7 Mehefin, 2008.

Dolenni allanol golygu