Y corff o gyfraith a ddatblygwyd ac a weinyddwyd gan Lys y Siawnsri i atodi'r darpariaethau a'r rhwymedïau sydd ar gael yn y gyfraith gyffredin yw ecwitïau. Mae ecwiti (ynghyd â chyfraith gyffredin a chyfraith statud) yn un o brif ffynonellau cyfraith Cymru a Lloegr.

Tan ddiwedd y 19g roedd ecwiti a chyfraith gyffredin yn systemau cyfraith gwahanol a chaent eu gweinyddu gan Lysoedd gwahanol. Ymdoddodd Deddfau'r Farnweiniaeth 1873-75 y system Llysoedd gan roi mynediad at gyfraith gyffredin ac ecwiti fel ei gilydd ar draws y system Llysoedd. Fodd bynnag, mae'r ddwy gangen o'r gyfraith yn parhau i gadw eu hunaniaeth wahanol eu hun, a lle bo egwyddorion yn gwrthdaro, dywedir mai ecwiti sydd â'r llaw uchaf.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.