Mae Edammer neu Caws Edam yn gaws sy'n dod yn wreiddiol o Edam yn yr Iseldiroedd.

Caws Edammer, Edam

Am ganrifoedd lawer, roedd caws Edam yn cael ei wneud o laeth amrwd. Yn Ffrainc yn yr 17g roedd yn fodel ar gyfer y caws Mimolette. Heddiw, mae'r caws llaeth amrwd wedi diflannu i raddau helaeth o'r farchnad, yn llawer mwy aml ceir yn awr 'Edam ffatri', sef caws llaeth pasteureiddiedig. Mae'r caws yn aeddfedu am chwech i wyth wythnos. Yn yr Iseldiroedd mae caws Edam o siâp pêl yn cael ei werthu yn bennaf gyda chroen naturiol. Mae gan yr Edammer gorau arogl sydd fymryn yn sbeislyd gyda blas pur, ysgafn.

Eginyn erthygl sydd uchod am gaws. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.