Edith New
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Edith New (17 Mawrth 1877 - 2 Ionawr 1951) - un o'r ddwy swffragét cyntaf i ddefnyddio fandaliaeth fel tacteg o fewn eu harfogaeth.
Edith New | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mawrth 1877 Swindon |
Bu farw | 2 Ionawr 1951 Liskeard |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | swffragét |
Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Fe'i ganed yn Swindon ar 17 Mawrth 1877; bu farw yn Liskeard.[1][2][3]
Synwyd Edith new a Mary Leigh pan ddathlwyd y fandaliaeth hwn gan fenywod ledled gwleydd Prydain, yn enwedig pan ddaethant allan o'r carchar yn 1908, a'u trin fel arwyr gan y dorf.
Bywyd cynnar
golyguGaned Edith Bessie New yn 24 North Street, Swindon, yn un o bump o blant Isabella (g. Frampton 1850–1922), athrawes cerddoriaeth, a Frederick James New, clerc rheilffordd, a fu farw pan oedd Edith yn llai na blwydd oed pan gafodd ei daro a'i ladd gan drên. Erbyn iddi fod yn 14 oed, gweithiai fel athrawes, gan symud i Ddwyrain Llundain yn 1901.[4][5]
Yr ymgyrchydd
golyguYn y 1900au cynnar gadawodd New ei gyrfa dysgu a dechreuodd weithio fel trefnydd ac ymgyrchydd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU). Teithiodd o gwmpas Lloegr yn siarad â grwpiau o fudiadau merched. Yn Ionawr 1908, cadwynodd Edith New ac Olivia Smith eu hunain i farrau haearn ffens 10 Stryd Downing, gan weiddi "Pleidleisiau i Fenywod!"; ymgais oedd hyn i greu gwyriad ar gyfer eu cyd-swffragetiaid Flora Drummond a Mary Macarthur, fel y gallent sleifio i mewn i 10 Stryd Downing, a chael eu harestio.
Yn ddiweddarach ym Mehefin 1908 yn ystod protest, torrodd New a Mary Leigh ddwy ffenestr yn 10 Downing Street. Cawsant eu harestio a'u dedfrydu i ddau fis yn y carchar yn Holloway.[6]
Hwn oedd y tro cyntaf i fudiad etholfraint a hawliau merched i weithredu drwy ddefnyddi fandaliaeth, ac ofnai'r ddwy fenyw na fyddai swffragetiaid eraill yn cymeradwyo eu gweithred treisgar, ond ymwelodd Emmeline Pankhurst, arweinydd y mudiad â'r merched yn y carchar a chymeradwyodd y defnydd o fandaliaeth fel tacteg er mwyn cael sylw'r wasg. Wedi hynny, cynlluniwyd rhagor o fandaliaeth a llosgi bwriadol gan y merched.[7]
Tra oedd yn y carchar, aeth ar ympryd (streic newyn) mewn protest.
Anrhydeddau
golyguCyflwynodd y WSPU fedal i Edith New i gydnabod ei chyfraniadau i'r mudiad dros y bleidlais. Ymddeolodd i Polperro yng Nghernyw a bu farw yn gynnar yn 1951, yn 73 oed. Yn 2011, cafodd stryd yn Swindon ei hailenwi er anrhydedd iddi a cheir plac glas yn Stryd y Gogledd, Swindon, yn nodi ei man geni.[8][9][10]
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Disgrifiwyd yn: https://doi.org/10.1093/odnb/9780198614128.013.56249.
- ↑ Dyddiad geni: https://doi.org/10.1093/odnb/9780198614128.013.56249.
- ↑ Man geni: https://doi.org/10.1093/odnb/9780198614128.013.56249.
- ↑ "Suffragettes: Edith New". Swindon Heritage. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2015. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Bevan, Frances (7 Hydref 2009). "Suffragette jailed for votes battle". Swindon Advertiser. Cyrchwyd 14 Mehefin 2015.
- ↑ Haill, Lyn. "Votes for Women: A Timeline". Mary Neal Project. Cyrchwyd 2019-03-08.
- ↑ Chandler, Malcolm (2001). Votes for Women, C.1900–28. Heinemann. t. 12. ISBN 9780435327316.
- ↑ Crawford, Elizabeth (2013-05-02). "Suffrage Stories: Mrs Alice Singer, Miss Edith New And The Suffragette Doll". Woman and Her Sphere. Cyrchwyd 2019-03-08.
- ↑ "Where history happened: the fight for women's suffrage". History Extra. BBC. 2010-06-15. Cyrchwyd 2019-03-08.Nodyn:Subscription required
- ↑ "Edith New". Biography.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-29. Cyrchwyd 2019-03-08.