Edward George Bowen

datblygydd radar, a radio-seryddwr cynnar
(Ailgyfeiriad o Edwards Bowen)

Gwyddonydd a dyfeisiwr Cymreig oedd Edward George Bowen CBE (14 Ionawr 191112 Awst 1991)[1]

Edward George Bowen
Ganwyd14 Ionawr 1911 Edit this on Wikidata
Y Cocyd Edit this on Wikidata
Bu farw12 Awst 1991 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Edward Victor Appleton Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, CBE, Cymrawd Academi Wyddoniaeth Awstralia Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Y Cocyd ger Abertawe, ble'r aeth i'r coleg. Rhwng 1933 ac 1934 bu'n gweithio ar y darganfyddwr cyfeiriad gyda'r 'cathode-ray' yn Slough ble y daeth dan ddylanwad Robert Watson-Watt. Tua diwedd 1935, symudodd y tîm cyfan i Ganolfan Ymchwil yr Awyrlu ('The Air Ministry Research Station') yn 'Bawdsey Manor', Suffolk lle gweithiwyd ar y 'radar' newydd. Bowen fu'n gyfrifol am ddyfeisio radar ar gyfer awyrennau.

Yn 1940 aeth i'r UDA a Chanada i rannu gwybodaeth. Cludodd ei cavity magnetron, sef rhan hanfodol o'r radar-tonnau-centimetr gydag ef. Gweithiodd ymhellach ar ei ddyfais yn Washington a Sydney ble y cododd delesgop radar 210 troedfedd yn Parkes yn Ne Cymru Newydd.

Ymddeolodd ym 1971. Derbyniodd OBE yn 1941, Medal Rhyddid America ym 1947 a CBE yn 1962.

Cyfeiriadau golygu

  1. R. Hanbury Brown, Harry C. Minnett and Frederick W.G. White, Edward George Bowen 1911-1991, Historical Records of Australian Science, cyfr.9, rh.2, 1992. [1] Archifwyd 2010-12-21 yn y Peiriant Wayback. ; ailgyhoeddwyd yn: Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society of London, 1992.

Dolennau allanol golygu