Edwin ab Einion

(950-1018)

Aelod o deulu brenhinol Deheubarth oedd Edwin ab Einion neu Edwin ab Einon (bu farw c. 1018); efallai iddo fod yn gyd-frenin Deheubarth rhwng 1005 a 1018.[1]

Edwin ab Einion
Ganwyd10 g Edit this on Wikidata
Bu farw1018 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadEinion ab Owain Edit this on Wikidata
PlantHywel ab Edwin, Maredudd ab Edwin, Owain ab Edwin (Deheubarth) Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd Edwin yn fab i Einion ab Owain, oedd yn reolwr de facto teyrnas Deheubarth yn henaint ei dad, Owain ap Hywel. Fodd bynnag, lladdwyd Einion ar gyrch yng Ngwent yn 984, a phan fu farw Owain, dilynwyd ef ar yr orsedd gan fab arall iddo, Maredudd ab Owain. Roedd un blaid yn cefnogi hawliau Edwin i'r orsedd, a gwnaethant ymdrech i ddisodli Maredudd yn 992, ond ymddengys i Maredudd eu gorchfygu.[1]

Mae'r cyfnod yn dilyn marwolaeth Maredudd yn 999 yn un tywyll yn hanes Deheubarth, oherwydd ychydig iawn o wybodaeth a gofnodir yn y brutiau am y blynyddoedd nesaf. Credir fod Edwin wedi dod yn frenin Deheubarth ar y cyd a'i frawd Cadell ab Einion yn 1005. Daeth ei feibion, Hywel ab Edwin a Maredudd ab Edwin, yn frenhinoedd Deheubarth yn 1033.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).