Effaith Dunning–Kruger

gogwydd gwybyddol lle mae pobl anghymwys yn tueddu i asesu eu hunain fel rhai medrus

Ym maes seicoleg, effaith Dunning–Kruger yw'r tuedd gwybyddol mewn pobl o allu isel i dybio eu bod yn rhagorol ac meddwl bod eu gallu gwybyddol yn fwy nag ydyw. Daw'r tuedd hwn o anallu pobl o allu isel i adnabod eu diffyg gallu eu hunain. Heb yr hunanymwybod a ddaw o fetawybyddiaeth, nid yw pobl o allu isel yn gallu gwerthuso'u gallu neu anallu yn wrthrychol.[1]

Fel y cafodd ei ddisgrifio gan y seicolegwyr cymdeithasol David Dunning a Justin Kruger yn eu hastudiaeth a gyhoeddwyd yn 1999, daw tuedd gwybyddol o oruchafiaeth dychmygol o ganlyniad i gamdybiaeth mewnol ymhlith pobl o allu isel a chamganfyddiad allanol mewn pobl o allu uchel; hynny yw, mae camdybiaeth y sawl sy'n ddi-glem o gamgymeriad ynghylch eu hunain, tra bod camganfyddiad y sawl sydd o allu uchel yn tarddu o gamgymeriad ynghylch eraill.[1]

Cyfeiriadau golygu