Effaith cynhysgaeth

Mewn seicoleg ac economeg ymddygiadol, yr effaith cynhysgaeth (hefyd osgoi amddifadiad ac yn perthyn i effaith perchnogaeth yn unig mewn seicoleg gymdeithasol[1]) yw'r ddamcaniaeth bod bod pobl yn rhoi mwy o werth ar bethau oherwydd eu bod eu perchen nhw.[2]

Effaith cynhysgaeth
Math o gyfrwngcognitive bias Edit this on Wikidata
Rhan otermau seicoleg Edit this on Wikidata

Mae hyn yn cael ei gyflwyno fel arfer gyda dwy enghraifft.[3] Mewn patrwm prisiant, mae pobl yn tueddu i dalu mwy i gadw rhywbeth maen nhw'n berchen yn barod nag i gael rhywbeth nad yw'n eiddo iddynt — hyd yn oed pan nad oes sail i'r ymlyniad, neu hyd yn oed pan mai ychydig funudau yn unig sydd ers iddynt gael yr eitem. Yn y patrwm cyfnewid, mae pobl yn gyndyn i gyfnewid rhywbeth sy'n eiddo iddynt am rhywbeth arall sydd o'r un gwerth neu debyg. Er enghraifft, roedd cyfranogwyr a chanddyn nhw far o siocled o'r Swistir yn gyndyn i'w gyfnewid am fwg coffi, tra bod cyfranogwyr a chanddyn nhw fwg coffi yn gyndyn i'w gyfnewid am far o siocled o'r Swistir. 

Trydydd patrwm mwy dadleuol yw'r patrwm perchnogaeth yn unig, sy'n cael ei ddefnyddio yn bennaf mewn arbrofion seicoleg, marchnata, ac ymddygiad trefniadol. Yn y patrwm hwn, mae pobl sy'n cael eu dewis ar hap i dderbyn gwrthrych ("perchnogion") yn ei werthuso yn fwy cadarnhaol na'r rhai sydd wedi derbyn yr un gwrthrych heb fod ar hap ("rheolaeth"). Y gwahaniaeth rhwng y patrwm hwn a'r ddau gyntaf yw nad yw'n gydnaws a chymhelliad. Mewn geiriau eraill nid yw cyfranogwyr yn cael eu cymell i ddatgelu i ba raddau maen nhw'n hoffi neu roi gwerth ar y gwrthrych. 

Gall effaith cynhysgaeth gael ei chymharu a'r model ymddygiadol Parodrwydd i Dderbyn neu Dalu, sef fformiwla sy'n cael ei ddefnyddio weithiau i ddarganfod faint mae cwsmer neu berson yn barod i'w ddioddef neu golli er mwyn sicrhau gwahanol ganlyniadau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Beggan, J. (1992). "On the social nature of nonsocial perception: The mere ownership effect". Journal of Personality and Social Psychology 62 (2): 229–237. doi:10.1037/0022-3514.62.2.229. https://archive.org/details/sim_journal-of-personality-and-social-psychology_1992-02_62_2/page/229.
  2. Roeckelein, J. E. (2006). Elsevier's Dictionary of Psychological Theories. Elsevier. t. 147. ISBN 0-08-046064-X.
  3. Morewedge, Carey K.; Giblin, Colleen E. (2015). "Explanations of the endowment effect: an integrative review". Trends in Cognitive Sciences 19 (6): 339–348. doi:10.1016/j.tics.2015.04.004. PMID 25939336.