Effaith rhagosodiadau (seicoleg)
Ymysg set o opsiynau sydd gan weithredwr i ddewis, yr opsiwn rhagosodedig yw'r opsiwn gaiff y gweithredwr os yw'n dewis gwneud dim. Mae astudiaethau yn dangos bod gwneud opsiwn yn ragosodedig yn cynyddu'r tebygrwydd i'r opsiwn hwnnw gael ei ddewis. Mae gosod neu newid rhagosodiad felly yn ffordd effeithiol o ddylanwadu ar ymddygiad - er enghraifft, wrth benderfynu rhoi organau, rhoi caniatad i dderbyn e-byst, neu ddewis iaith ar ryngwynebau.
Eglurhad
golyguMae sawl eglurhad gwahanol wedi ei roi ar sut mae newid gosodiad rhagosodiad yn gallu cael newid mawr yn newis unigolyn. Cynhwysir cost ymdrech a chost amser.
Cost ymdrech
golyguCeir cost ymdrech os yw'r gweithredwr rhwng dau feddwl, ac felly'n defnyddio llawer o ymdrech gwybyddol i wneud ei ddewis. Gall hynny arwain y gweithredwr i beidio a gwneud dim o gwbwl: "os oes rhagosodiad, paid a gwneud dim amdano"[1]
Cost amser
golyguMae switshio rhwng un opsiwn i'r llall yn golygu cost arall, sef amser. Dengys economeg ymddygiadol sut mae pobl yn hoff o bethau sydd yn hawdd ac yn gyflym.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gigerenzer, G. (2008). "Why Heuristics Work". Perspectives on Psychological Science 3: 20–281. doi:10.1111/j.1745-6916.2008.00058.x.