Egineg
Mae Egineg (Ffrangeg: Acigné) yn gymuned yn department Il-ha-Gwilen (Ffrangeg: d'Ille-et-Vilaine), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Liffré, Beuzid-ar-C'hoadoù, Brec'heg, Cesson-Sévigné, Noyal-sur-Vilaine, Servon-sur-Vilaine, Thorigné-Fouillard ac mae ganddi boblogaeth o tua 6,888 (1 Ionawr 2021).
Math | cymuned |
---|---|
Prifddinas | Acigné |
Poblogaeth | 6,888 |
Pennaeth llywodraeth | Olivier Dehaese |
Gefeilldref/i | Wachtendonk, Șeica Mare |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 29.55 km² |
Uwch y môr | 29 metr, 96 metr |
Gerllaw | Afon Gwilun |
Yn ffinio gyda | Liverieg, Beuzid-ar-C'hoadoù, Brec'heg, Saozon-Sevigneg, Noal-ar-Gwilen, Servon, Torigneg-Fouilharzh |
Cyfesurynnau | 48.1342°N 1.5367°W |
Cod post | 35690 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Egineg |
Pennaeth y Llywodraeth | Olivier Dehaese |
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.
Poblogaeth
golyguHanes
golyguMae tystiolaeth o anheddu hynafol yn yr ardal yn mynd yn ôl i tua 3500 CC.
Bu Sant Martin o Tours neu ei ddisgyblion yn efengylu yn yr ardaloedd yn y 4g.
Ym 1010, ildiodd Rivallon, Barwn Gwitreg ei diriogaethau yn Egineg i'w mab Renaud. Bu'r llinach yn para hyd y 16g, pan ddaeth y llinell i ben gyda phriodas Judith d'Acigné i farsial Cossé-Brissac.
O'r 11eg i'r 18g, bu cyfran o diriogaeth y gymuned yn perthyn i'r Abatai Sant Melaine a Sant Georges yn Roazhon.
Ym 1234 cafodd y castell ei ddinistrio gan Ddug Llydaw, Pierre Mauclerc i gosbi Alain Egineg am ochri gyda'r brenin Ffrainc (Louis IX) yn ei erbyn
Yn ystod y Chwyldro Ffrengig, ochrodd y dref gyda'i chlerigwyr a chafodd ei gosbi gan gael ei ddinistrio gan fintai o'r gwarchodlu cenedlaethol ym 1792[1].
Cysylltiadau Rhyngwladol
golyguMae Egineg wedi'i gefeillio â:
- Wachtendonk, yr Almaen, ers 1980
- Șeica Mare, Rwmania, ers 1993
Adeiladau a mannau cyhoeddus nodedig
golygu- Croes y fynwent
- Tŵr Dŵr
- Eglwys Sant Martin
- Gorsaf trenau
- Neuadd y dref
- Croesau min y ffordd
-
Croes y fynwent
-
Cerflyn o'r Forwyn Mair wrth droed y groes
-
Cerflyn St Ann wrth droed y groes
-
Tŵr Dŵr
-
Eglwys Sant Martin
-
Rheilffordd
-
Neuadd y dref
-
Croes min ffordd y pererinion
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Le patrimoine des communes d'Ille-et-Vilaine, Ed. Flohic, Paris, 2000.