Eglwys Fetteresso
Eglwys drawiadol yn Stonehaven, Swydd Aberdeen, Yr Alban, yw Eglwys Fetteresso. Adeiladwyd yr eglwys bresennol rhwng 1810-1812 gan gostio 2,000 gini. Ehangwyd yr eglwys ym 1878, ac ychwanegwyd neuadd ar yr ochr orllewinol ym 1970.[1] Lleolwyd yr hen eglwys (a gysegrwyd i Ciaran (sant Gwyddelig o'r 6g) gan David de Birnam, Esgob St Andrews ym 1246) yn Kirktown of Fetteresso. Daeth y lleoliad yno'n anghyfleus i boblogaeth gynnyddol Stonehaven, ac roedd yr hen adeilad wedi dirywio. Cynigiwyd cynllun eglwys newydd gan y pensaer John Paterson ym 1808. Yn ystod 1808, gweithiodd ar estyniadau i Gastell Fetteresso, sydd wedi dylanwadu ar gynllun yr eglwys.
Math | eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Aberdeen |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 56.9685°N 2.21705°W |
Cod OS | NO8690286388 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A |
Manylion | |
Daeth y gloch, a phanel pren y gadair gymun (sy'n coffáu John Milne, gweinidog episcopalaidd) o'r hen eglwys. Goroesodd panel arall, sy'n dangos moch yn chwarae bagbibau ac yn dawnsio, yn y castell cyfagos, hyd at y pumdegau. Gwnaethpwyd y gloch yn Whitechapel ym 1736 a chostiodd £25. Ceir yma hefyd organ a wnaethpwyd gan gwmni Willis ym 1876, anrheg o'r teulu Baird o Dŷ Ury. Roedd gwrthwynebiad gan rai o'r cynulleidfa ei derbyn.[2]