Eglwys Gadeiriol Sarlat

Mae Eglwys Gadeiriol Saint-Sacerdos yn Sarlat (Cathédrale Saint-Sacerdos de Sarlat), yn eglwys gadeiriol Babyddol Ffrengig wedi'i lleoli yn Sarlat-la-Canéda, yn adran Dordogne, France. Mae ganddi deitl cyd-eglwys gadeiriol esgobaeth Périgueux a Sarlat. Fe'i dosbarthwyd yn heneb hanesyddol ym 1840.

Fe'i hadeiladwyd fel abaty yn y 12fed ganrif. Mae wedi'i hadeiladu yn yr arddull Gothig. Ym 1504 dechreuodd yr Esgob, Armand de Gontaut-Biron, adeiladu eglwys gadeiriol newydd yn yr un lle.[1]

Mae'r cysegr wedi'i gysegru i Saint Sacerdos. Mae dau sant yn Ffrainc o'r enw Sacerdos, ond mae nawdd yr eglwys gadeiriol yn cyfeirio at Sacerdos o Limoges, y rhoddwyd eu creiriau i'r eglwys gadeiriol yn yr Oesoedd Canol. Diflannodd y creiriau yn ystod Rhyfeloedd Crefydd Ffrainc[2].

Cyfeiriadau golygu

  1. Manufacture française des pneumatiques Michelin (1991). Michelin Dordogne, Périgord-Quercy: Tourist Guide (yn Saesneg). Michelin Tyre. t. 138. ISBN 978-2-06-701323-0.
  2. "Sarlat-la-Canéda Cathedral". Structurae. Cyrchwyd 25 Mawrth 2021.