Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Middlewich
Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion yw eglwys blwyf Anglicanaidd Middlewich yn Swydd Gaer, Lloegr.[1] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II*. Fe'i adeiladwyd gyda thywodfaen coch tua 1500 ac fe'i atgyweiriwyd gan Joseph Clarke rhwng 1857 a 1860.[2] Yn 1947 disgrifiodd yr hanesydd pensaernïol Raymond Richards yr eglwys fel "yr unig adeilad, mewn tref ddigalon, sy'n fwyn ac yn urddasol".
Math | eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Middlewich |
Sir | Swydd Gaer |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.1926°N 2.4446°W |
Cod OS | SJ7039066250 |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Normanaidd, pensaernïaeth Gothig Seisnig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Cysegrwyd i | Mihangel |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Caer |
Mae rhannau o'r eglwys yn dyddio o'r 12g – rhan isaf y tŵr o bosibl, ond yn fwy tebygol arcêd gul y bae dwyreiniol.[3][4][5] Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r eglwys yn ystod y cyfnod rhwng tua 1480 a 1520. Adeiladwyd capel Mair ym mhen dwyreiniol yr ystlys ddeheuol ac ychwanegwyd porth deulawr i'r ochr ddeheuol. Yn y ganrif olynol ychwanegwyd capel Kinderton ym mhen dwyreiniol ystlys y gogledd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan yr eglwys
- ↑ Gwefan historicengland.org.uk Gwefan Historic England
- ↑ Charles Frederick Lawrence (1895), History of Middlewich, Eachus and Son, Sandbach
- ↑ "St. Michael and All Angels, Middlewich", The Corpus of Romanesque Sculpture in Britain and Ireland, archifwyd o y gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2012, https://archive.today/20120728193410/http://www.crsbi.ac.uk/search/county/site/ed-ch-middl.html, adalwyd 13 Mehefin 2010
- ↑ Richards, Raymond (1947), Old Cheshire Churches, London: B. T. Batsford, pp. 234–237