Eisteddfod Abergorlech

Eisteddfod fach leol ydy Eisteddfod Abergorlech a gaiff ei chynnal pob Tachwedd yn Neuadd y pentref yn Abergorlech, Sir Gaerfyrddin. Cynhaliwyd yn gyntaf yn 1961 gyda'r Parch Idwal R Evans yn Gadeirydd, Mr Samuel Thomas yn Drysorydd a Mr D Jenkins yn Ysgrifennydd.

Mae'r Eisteddfod wedi ei chynnal bron pob blwyddyn ers hynny a mae sawl un o'r cystadleuwyr (yn cynnwys Siân Cothi, Rhian Williams, Joy Cornock, Dafydd Jones)wedi mynd ymlaen i lwyddo ar llwyfannau Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol.

Mae yna gystadleuthau Adrodd, Canu, Llenyddiaeth a chanu offeryn. Mae'r Eisteddfod yn cynnig Cadair fach am ddarn o gerdd ac mae na gwpannau her ar gael i enillwyr cystadleuthau 'Canu Emyn Dros 50' a'r 'Her Unawd Agored'. Cynigir tlws arbennig i blant o dan 20 oed am ddarn o lenyddiaeth.

Ar y pwyllgor ar hyn o bryd mae Mr Dewi Thomas (Cadeirydd), Mrs Heulwen Ffrancis (Ysgrifenyddes), Mr Dennis Griffiths (Trysorydd). Cynhelir yr Eisteddfod nesaf ar 29 Tachwedd 2008.