Elain Price

haneswr ac academydd

Darlithydd ac awdur yw Dr Elain Price.[1]

Elain Price
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, academydd Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Ar ôl derbyn BA mewn astudiaethau ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth aeth ymlaen i astudio ar gyfer MPhil mewn hanes darlledu. Yn 2002 ymunodd â Screen Cymru Wales fel Rheolwr Addysg, lle bu’n gyfrifol am drefnu Ffresh, Gŵyl Cyfryngau Myfyrwyr Cymru rhwng 2003 a 2005. Gweithiodd hefyd i gwmni meddalwedd B-DAG (a ailenwyd yn Awen yn 2006), fel rheolwr marchnata a gwerthu rhwng 2005 a 2006. Yn 2006 dychwelodd i'r byd astudio er mwyn cwblhau PhD ar hanes blynyddoedd ffurfiannol S4C, astudiaeth a gwblhawyd yn 2010 gyda chyllid gan y Ganolfan Addysg Uwch Cymraeg. Yn 2011 ymunodd ag Academi Hywel Teifi fel darlithydd cyfryngau. Ei phrif feysydd ymchwil yw darlledu yng Nghymru - yn benodol cynnydd a hanes S4C a'r sector teledu annibynnol, datblygu rhaglenni teledu plant.[2]

Yn 2016 cyhoddodd Nid Sianel Gyffredin Mohoni! sef cyfrol am hanes sefydlu S4C.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "www.gwales.com - 9781783168880, Nid Sianel Gyffredin Mohoni! - Hanes Sefydlu S4C". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-07.
  2. "Dr Elain Price". www.swansea.ac.uk. Cyrchwyd 2019-11-07.