Cangen o wyddoniaeth a thechnoleg sy'n defnyddio symuadiad rheoledig electronau rwy gyfryngau gwahanol. Gan amlaf, defnyddir y gallu i reoli lif electronau ar gyfer ymdrin â gwybodaeth neu reoli dyfais. Mae electroneg yn wahanol i gwyddoniaeth a thechnoleg drydanol, sydd hefyd yn ymdrin â'r cynhyrchiad, dosbarthiad, rheolaeth a defndd o bŵer trydanol. Dechreuodd yr amrywiad hyn tua 1906 an ddyfeisiodd Lee De Forest y triod, a alluogodd mwyhad trydanol gyda dyfais di-fecanyddol. Gelwyd y maes hwn yn "dechnoleg radio" tan 1950 oherwydd ei brif ddefnydd oedd ar gyfer cynllunio a theori trawsyryddion radio, derbynyddion radio a thiwbiau wactod.

Elfennau electroneg technoleg mownt-arwynebedd
Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Chwiliwch am electroneg
yn Wiciadur.