Gohebydd a nofelydd o Gaernarfon yw Elen Wyn.[1]

Elen Wyn
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata

Mae hi bellach yn byw yn Llanelwy gyda'i gŵr, y cyflwynydd BBC Radio Cymru Dylan Jones, a'u dau blentyn. Mae hi'n ohebydd ar gyfer y rhaglen Newyddion 9 ar S4C a rhaglenni newyddion Radio Cymru. Graddiodd Elen o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Newyddiaduriaeth. Yn 2000, yn dilyn cyfnod fel gohebydd newyddion ar Champion FM (Heart FM bellach), aeth Elen i weithio i'r BBC fel ymchwilydd; yn 2004 fe'i penodwyd yn ohebydd newyddion ar Newyddion y BBC ar S4C.

Cyhoeddwyd y gyfrol Edau Bywyd gan Gwasg y Bwthyn yn 2013.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "www.gwales.com - 1907424547". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Elen Wyn ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.