Eleri Mills

arlunydd Cymreig

Arlunydd o Gymru yw Eleri Mills (ganwyd 1955).[1] Ganed yn Llangadfan yn yr hen Sir Drefaldwyn.

Eleri Mills
GanwydIonawr 1955 Edit this on Wikidata
Llangadfan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Fetropolitan Manceinion Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.elerimills.co.uk/ Edit this on Wikidata

Magwyd hi ar fferm ac mae'r tir wedi cael dylanwad mawr ar ei gwaith: "Mae’r tir wedi bod yn rhan annatod ohonof, byth oddi ar yr adeg pan oeddwn yn blentyn ac yn helpu o gwmpas y fferm."

Astudiodd Celf a Dylunio ym Manceinion rhwng 1974 a 1977.

Mae hi wedi dychwelyd i weithio yn yr un ardal wledig Gymraeg a chafodd hi ei magu ynddi. Mae hi'n feistr ar weithio yn narnau a bwythwyd gan law a lluniau cyfryngau cymysg.[2]

"Mae'n bwysig bod arlunwyr yn edrych yn ôl dros y canrifoedd, ond hefyd ymlaen - gan gario enw da Cymru ar y daith."[3]

Cyfeiriadau

golygu