Elisabeth o Ruddlan

tywysoges a anwyd yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Elizabeth o Rhuddlan)

Roedd Elisabeth o Ruddlan (7 Awst 12825 Mai 1316) yn wythfed plentyn, a'r ieunegaf, i Frenin Edward I a Brenhines Eleanor o Castile. O'i brodyr a'i chwiorydd i gyd, hi oedd yr agosaf i'w brawd Brenin Edward II, gan mai dim ond dwy flynedd oedd rhyngddynt o ran oed.

Elisabeth o Ruddlan
Ganwyd7 Awst 1282 Edit this on Wikidata
Castell Rhuddlan Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1316 Edit this on Wikidata
o anhwylder ôl-esgorol Edit this on Wikidata
Quendon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
TadEdward I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
MamElinor o Gastilia Edit this on Wikidata
PriodJohn I, iarll yr Iseldiroedd, Humphrey de Bohun, 4ydd iarll Hereford Edit this on Wikidata
PlantEleanor de Bohun, iarlless Ormonde, John de Bohun, 5ed iarll Hereford, Humphrey de Bohun, 6ed iarll Hereford, Margaret de Bohun, iarlles Devon, William de Bohun, iarll 1af Northampton, Edward de Bohun, Hugh de Bohun, Mary de Bohun, Edmund de Bohun, Isabella de Bohun, Eneas de Bohun Edit this on Wikidata
LlinachLlinach y Plantagenet Edit this on Wikidata

Priodas gyntaf golygu

Priododd Elisabeth, John o Ipswich ar 8 Ionawr 1297. Yn y briodas roedd chwaer Elisbaeth, Margaret, ei thad, Edward I o Loegr, ei brawd Edward, a Humphrey de Bohun. Ar ôl y briodas roedd disgwyl i Elisabeth fynd i'r Iseldiroedd â'i gŵr, ond nid oedd yn dymuno gwneud hynny, gan adael i'w gŵr fynd ei hun. Yn ôl y sôn, gwylltiodd y brenin a thaflu coron ei ferch i'r tân.[1]

Ar ôl amser penderfynwyd y dylai Elisabeth ddilyn ei gŵr a theithiodd ei thad gyda hi, drwy Dde'r Iseldiroedd rhwng, Antwerp, Mechelen, Leuven a Brussels, cyn gorffen yn Ghent. Ar 10 Tachwedd 1299 bu farw John o ddysentri, er fod si ei fod wedi'i lofruddio. Nid oedd ganddynt blant.

Ail briodas golygu

Ar 14 Tachwedd 1302, priododd Elisabeth Humphrey de Bohun, yn Abaty San Steffan.

Cyfeiriadau golygu

  1. T.H. Turner (ed.), Manners and Household Expenses of England in the Thirteenth and Fifteenth Centuries, Illustrated by Original Records (William Nicol/Shakspeare Press, London 1841), pp. lxxvi-vii, note (Internet archive).