Elwyn Ioan
Arlunydd, chartwnydd ac awdur o Gymru yw Elwyn Ioan (ganwyd 1947) sy'n adnabyddus am ddarlunio nifer fawr o lyfrau Cymraeg. Dyfeisiodd y gyfres Cadwgan a sawl cyfres arall i blant.
Elwyn Ioan | |
---|---|
Ganwyd | 1947 Pen-bont Rhydybeddau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cartwnydd, llenor |
Bywgraffiad
golyguCafodd Elwyn ei eni ym Mhen-bont Rhydybeddau ger Aberystwyth. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Trefeurig ac Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Celf Caerfyrddin. Cychwynnwyd gwasg newydd Y Lolfa yn 1967 gan Robat Gruffudd ac ymunodd Elwyn yn 1968 fel yr aelod cyntaf o'r staff. Am ddegawdau bu'n cyfrannu at gylchgronau fel Lol, Wcw a chylchgronau'r Urdd a chafodd sawl cartŵn yn y cylchgrawn Private Eye.
Wedi 18 mlynedd gyda'r Lolfa mae bellach yn gweithio ar liwt ei hun.[1]
Yn Ngŵyl Bedwen Lyfrau Crymych 2008 cyflwynwyd tlws Cyfraniad Oes i'r Diwydiant Cyhoeddi iddo.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwobr 'annisgwyl' i Elwyn , BBC Cymru, 7 Mai 2008. Cyrchwyd ar 22 Medi 2016.
- ↑ Gwobr Cyfraniad Oes i Elwyn Ioan. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 22 Medi 2016.