Emboledd ysgyfeiniol
Mae emboledd ysgyfeiniol yn digwydd pan fydd llestr gwaed yn eich ysgyfaint wedi cau. Y rhan fwyaf o’r amser, clot gwaed sy’n achosi hyn. Mae’n gyflwr difrifol oherwydd gall achosi gwaed rhag cyrraedd eich ysgyfaint. Gall triniaeth feddygol gyflym achub bywyd.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | pulmonary artery disease, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Symptomau
golyguMae’n galli bod yn anodd i adnabod symptomau emboledd ysgyfeiniol oherwydd gallant amrywio rhwng gwahanol bobl. Y prif symptomau yw poen yn y frest, teimlo’n fyr eich gwynt, tagu a theimlo’n benysgafn neu lewygu hyd yn oed. Mae clot gwaed yn eich coes yn gallu torri’n rhydd a theithio i’ch ysgyfaint, felly mae’n bosib y cewch arwyddion rhybudd eraill fel coes boenus, goch, sydd wedi chwyddo.
Achosion
golyguY rhan fwyaf o’r amser, clot gwaed sy’n teithio i fyny o un o’r gwythiennau dwfn yn eich coesau sy’n achosi emboledd ysgyfeiniol. Thrombosis gwythïen-ddofn (DVT)yw’r enw ar y math hwn o glot.
Diagnosis
golyguGall fod yn anodd i feddygon benderfynu a oes gennych emboledd ysgyfeiniol neu beidio, oherwydd mae’r symptomau yn debyg i lawer o gyflyrau eraill. Mae’n bwysig gwneud diagnosis cywir ohono oherwydd nid yw trin emboledd ysgyfeiniol wastad yn hawdd, a gall triniaethau achosi sgil-effeithiau. Os yw eich meddyg yn amau emboledd ysgyfeiniol, cewch nifer o brofion, fel pelydr-X ar y frest, neu sgan uwchsain i weld a oes clot gwaed yn eich coes, a phrofion i weld pa mor dda mae eich ysgyfaint yn gweithio.
Triniaeth
golyguGwrthgeulydd yw’r brif driniaeth, sef cyffur sy’n achosi newidiadau cemegol yn eich ysgyfaint i’w atal rhag ceulo yn hawdd. Bydd y gwrthgeulydd yn atal y clot rhag mynd yn fwy, tra bydd eich corff yn ei amsugno’n araf. Mae hefyd yn lleihau’r risg o gael clotiau eraill. Y prif gyffuriau a ddefnyddir i drin emboledd ysgyfeiniol yw heparin, ar ffurf chwistrelliad, a warfarin, ar ffurf tabled. Bydd angen i’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael diagnosis o emboledd ysgyfeiniol gael chwistrelliad o heparin am o leiaf pum diwrnod. Dim ond warfarin y bydd angen i chi gymryd wedyn fel arfer.
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation. Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |