Llenor Arabeg o Israel oedd Emile Habibi (29 Awst 19222 Mai 1996) sy'n nodedig am ei nofelau a'i straeon byrion sy'n portreadu profiadau ac hunaniaeth y Palesteiniaid sy'n byw fel lleiafrif Arabaidd yn Israel. Ysgrifennodd hefyd ddramâu.[1][2]

Emile Habibi
Ganwyd29 Awst 1922 Edit this on Wikidata
Haifa Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mai 1996 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Nasareth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPalesteina, Israel Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, gwleidydd, newyddiadurwr, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Al-Ittihad Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolMaki Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Israel, Order of Jerusalem for Culture, Arts and Literature Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Haifa, Mandad Palesteina, sydd bellach yn rhan o Wladwriaeth Israel. Trodd Habibi yn gomiwnydd yn y 1940au ac ef oedd un o sefydlwyr Plaid Gomiwnyddol Israel. Gwasanaethodd yn aelod y Knesset.

Rhoddwyd Medal Jeriwsalem iddo gan Fudiad Rhyddid Palesteina yn 1990. Derbyniodd Wobr Israel yn 1992, ac ef oedd yr Arabiad cyntaf i ennill yr anrhydedd hwnnw. Bu farw o ganser yn yr ysbyty yn Nasareth yn 73 oed.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Emile Habibi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mai 2019.
  2. (Saesneg) Sabry Hafez, "Obituary: Emile Habibi Archifwyd 2016-03-02 yn y Peiriant Wayback.", The Independent (4 Mai 1996). Adalwyd ar 23 Mai 2019.
  3. (Saesneg) Joel Greenberg, "Emile Habibi, 73, Chronicler Of Conflicts of Israeli Arabs", The New York Times (3 Mai 1996). Adalwyd ar 23 Mai 2019.