Emlyn Davies
Darlledwr a chyflwynydd teledu yw Emlyn Davies (ganwyd Ionawr 1945).
Emlyn Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1945 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu |
Fe'i ganwyd yn Llanberis, Gwynedd, cyn astudio ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1963 ac 1968. Yn 1969 daeth yn ohebydd newyddion a materion cyfoes gyda BBC Cymru. Rhwng 1976 ac 1979 roedd yn gyflwynydd rhaglenni addysg a cyflwynodd y rhaglen Hyn o Fyd. Aeth ymlaen i fod yn Olygydd Newyddion BBC Radio Cymru rhwng 1979 ac 1981. Pan sefydlwyd S4C yn 1982 daeth Davies yn Brif Gomisiynydd Rhaglenni cyntaf y sianel. Yn 1987 sefydlodd y cwmni cynhyrchu annibynnol Teledu Elidir.[1] Ymddeolodd o'r cwmni yn 2005.[2]
Swyddi
golygu- 1969–1976 - Gohebydd Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru
- 1976–1979 - Cyflwynydd Rhaglenni Addysg BBC Cymru
- 1979–1981 - Golygydd Newyddion BBC Radio Cymru
- 1981–1987 - Prif Gomisiynydd Rhaglenni S4C
- 1987–2005 - Cynhyrchydd Annibynnol, Teledu Elidir
Cyfeiriadau
golygu- ↑ beta.companieshouse.gov.uk; adalwyd 26 Chwefror 2018.
- ↑ Proffil LinkedIn. LinkedIn. Adalwyd ar 26 Chwefror 2018.
Dolenni allanol
golygu- Hyn o Fyd ar BBC iPlayer