Encarnacion Alzona

Hanesydd Philipinaidd arloesol oedd Encarnacion Alzona (23 Mawrth 1895 - 13 Mawrth 2001) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel swffragét. Hi oedd y fenyw Ffilipinaidd gyntaf i ennill Ph.D., rhoddwyd iddi reng a theitl Gwyddonydd Cenedlaethol Philippines ym 1985.

Encarnacion Alzona
Encarnacion Alzona.jpg
Ganwyd23 Mawrth 1895 Edit this on Wikidata
Binan Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 2001 Edit this on Wikidata
Manila Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Y Philipinau Y Philipinau
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, swffragét, academydd Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Binan a oedd yr adeg honno yn Capitanía General de Filipinas ac a hawliwyd yn rhan o Ymerodraeth Sbaen; bu farw yn Manila, prifddinas y Philipinau a'i chladdu yn Libingan ng mga Bayani ('Caer yr Arwyr'), Fort Bonifacio, hefyd yn Manila. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Radcliffe, Prifysgol Harvard, Prifysgol Columbia a Phrifysgol y Philipinau.

Magwraeth a cholegGolygu

Fe’i magwyd yn nhalaith Tayabas. Roedd ei thad yn farnwr ac yn berthynas bell i'r cenedlaetholwr a'r polymath Jose Rizal.[1]

Roedd ei rhieni'n ddarllenwyr mawr, a oedd yn meithrin ei thueddiadau academaidd. Enillodd radd mewn hanes o Brifysgol y Philipinau ym Manila ym 1917, a gradd meistr y flwyddyn ganlynol o'r un brifysgol. Arolwg hanesyddol oedd ei thraethodau ymchwil - ar addysg o fewn ysgolion i fenywod yn Ynysoedd y Philipinau, thema a ysgogodd ynddi'n ddiweddarach ei gwaith fel swffragét.[2]

Dilynodd Alzona astudiaethau pellach yn Unol Daleithiau America fel ysgolhaig, astudiaethau a ariannwyd gan lywodraeth America. Enillodd radd meistr arall mewn hanes o Goleg Radcliffe, Prifysgol Harvard ym 1920, a Ph.D. o Brifysgol Columbia ym 1923.[3]

 
Bedd Encarnacion Alzona yn Libingan ng mga Bayani

Dychwelodd Alzona i Ynysoedd y Philipinau ym 1923 ac ymunodd â chyfadran Hanes, Prifysgol y Philipinau ar gampws Manila, a symudodd yn ddiweddarach i Brifysgol y Philipinau yn Diliman.

EtholfraintGolygu

Hyd yn oed wrth i ferched America ennill yr hawl i bleidleisio ym 1920, ni roddwyd yr un hawl i fenywod yn y Philipinau, a oedd ar yr adeg honno yn wladfa Americanaidd. Mor gynnar â 1919, siaradodd Alzona o blaid rhoi’r hawl i bleidlais i ferched Ffilipinaidd, a thros etholfrait mewn erthygl a gyhoeddodd yn y Philippine Review.[4]

Wedi'r Ail Ryfel BydGolygu

Dewisodd Alzona aros ym Manila trwy gydol goresgyniad Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu'n rhan o'r mudiad herwfilwrol ('gerila') yn erbyn y Japaneaid.[5]

Ar ôl y rhyfel, penodwyd Alzona gan yr Arlywydd Manuel Roxas yn aelod o ddirprwyaeth Philippine i UNESCO. Gwasanaethodd yn y ddirprwyaeth tan 1949, ac fe’i hetholwyd yn gadeirydd Is-bwyllgor Gwyddor Gymdeithasol, Athroniaeth a’r Dyniaethau ym 1946.[5]

AnrhydeddauGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Camagay, National Scientists of the Philippines, t. 242
  2. Camagay, National Scientists of the Philippines, t. 237
  3. Xiaojian Zhao; Edward J.W. Park Ph.D. (26 November 2013). Asian Americans: An Encyclopedia of Social, Cultural, Economic, and Political History [3 volumes]: An Encyclopedia of Social, Cultural, Economic, and Political History. ABC-CLIO. t. 426. ISBN 978-1-59884-240-1.
  4. Camagay, National Scientists of the Philippines, t. 239
  5. 5.0 5.1 Camagay, National Scientists of the Philippines, t. 238