Enid Pierce Roberts
ysgolhaig a llenor Gymraeg
(Ailgyfeiriad o Enid Roberts)
Awdur ac ysgolhaig Cymraeg oedd Enid Pierce Roberts (1917 – 9 Gorffennaf 2010). Roedd hi'n arbenigwraig ar lenyddiaeth Gymraeg yr 16g.
Enid Pierce Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 1917 Llangadfan |
Bu farw | 9 Gorffennaf 2010 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgolhaig llenyddol |
Ganed hi yn Llangadfan yn yr hen Sir Drefaldwyn, ac aeth i Goleg Prifysgol Bangor, lle graddiodd yn 1938. Bu'n gweithio fel athrawes am gyfnod, cyn dod yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mangor yn 1946, lle bu hyd ei hymddeoliad yn 1978. Roedd hefyd yn aelod blaenllaw o'r Eglwys yng Nghymru.
Cyhoeddiadau
golygu- (golygydd) Detholion o Hunangofiant Gweirydd ap Rhys (1949)
- Braslun o Hanes Llên Powys (Gwasg Gee, 1965)
- (golygydd) Gwaith Sion Tudur (2 gyfrol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)
- Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986)
- William Morgan a'r Beibl Cymraeg
- Seintiau Cymru (gyda G.J. Roberts)
- A'u Bryd ar Ynys Enlli (Gwasg y Lolfa)