Grŵp o offerynwyr sy'n hyrwyddo cerddoriaeth glasurol i leoedd ledled Cymru yw Ensemble Cymru. Sefydwyd y grŵp yn 2001 gan Peryn Clement-Evans. Ers y dechrau y bwriad fu cynhyrchu cerddoriaeth siambr ar gyfer lleisau ac offerynnau mewn ystod eang o weithgarwch ar gyfer neuaddau cyngerdd, gweithgarwch sy'n aml wedi'i anelu at blant a theuluoedd. Cynhelir tua chant o ddigwyddiadau bob blwyddyn. Bu cysylltiad agos gyda llawer o sefydliadau eraill ac ers 2015 y mae wedi cynnig hyfforddiant a chyngor i berfformiwyr ifanc trwy fenter Academi Cerddoriaeth Siambr.

Ensemble Cymru
Enghraifft o'r canlynolcynulliad cerddorol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2001 Edit this on Wikidata

Llenyddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu