Erwan Sant
barnwr, cyfreithiwr, henuriad (1253-1303)
Nawddsant Llydaw yw Erwan (17 Hydref 1253 – 19 Mai 1303), neu Erwan Helouri. Fe'i ganed ger Landreger, yn fab i Helouri ac Azou a Genkiz. Offeiriad oedd Erwan yn gweithio ymhlith y tlodion yn Louaneg. Bu'n ddisgybl i Peter de la Chapelle yn astudio cyfraith eglwysig yn Orléans.[1]
Erwan Sant | |
---|---|
Ganwyd | 17 Hydref 1253 Q123530155 |
Bu farw | 19 Mai 1303 Ar Vinic'hi, Louaneg |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | henuriad, cyfreithiwr, barnwr |
Swydd | ficer barnwrol, ficer barnwrol |
Dydd gŵyl | 19 Mai |
Yn ogystal â bod yn nawddsant Llydaw, mae Erwan yn nawddsant cyfreithwyr a phlant amddifad.[2] Caiff ei ddydd gŵyl ei nodi ar 19 Mai, sef dyddiad ei farw ym 1303.
Gouel Erwan
golyguYn 1997 adeiladwyd ar gof Erwan Sant wrth i dri dyn yn Naoned greu Gouel Breizh wedi eu hysbrydoli gan ŵyliau nawddsant San Padrig yn Iwerddon a Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru. Oherwydd gwrthwynebiad o du seciwlariaid radical, gollyngwyd yr enw Gouel Erwan (ac yn Ffrangeg, Fête de la Saint-Yves) yn 2009.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Staley, Tony. "Good as lawyer, judge and priest", The Compass News, Catholic Diocese of Green Bay, Wisconsin, 13 May 2013 Archifwyd 20 Gorffennaf 2013 yn archive.today
- ↑ Wigmore, John H. (1936). "St. Ives, Patron Saint of Lawyers" (yn en). Fordham Law Review 5: 401.