Ysgymuno
(Ailgyfeiriad o Esgymuniad)
Yn yr eglwys Gristnogol ysgymuno (o'r Lladin excommunicatio) yw'r weithred o gau allan o'r Cymun sanctaidd rywun neu rywrai a fernir yn ddiedifar o drosedd fawr neu heresi. Fel rheol y Pab ei hun sy'n awdurdodi ysgymuno rhywun. Cawsai ysgymuno ei ddefnyddio fel arf wleidyddol ar sawl achlysur yn y gorffennol.
Yng Nghymru'r Oesoedd Canol cafodd Owain Gwynedd, brenin teyrnas Gwynedd, ei ysgymuno am briodi ei gyfnither Cristin, er enghraifft. Yn y 16g ysgymunwyd Harri VIII o Loegr am wrthod awdurdod y Pab.