Evan Lloyd (cyhoeddwr)

argraffwyr a chyhoeddwyr (1800-1879)

Cyhoeddwr, llyfrwerthwr, gwas sifil ac argraffydd o Gymru oedd Evan Lloyd (17 Mai, 1800 - 2 Mai 1879).

Evan Lloyd
Ganwyd1800 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mai 1879 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethargraffydd, cyhoeddwr, llyfrwerthwr, gwas sifil Edit this on Wikidata
Blodeuodd1833 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Inland Revenue Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn Adwy'r Clawdd ym 1800 yn fab i'r Parch Evan Lloyd, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Wedi cyfnod o brentisiaeth yn y grefft o argraffu gyda gwasg Painter Wrecsam [1] sefydlodd gwasg yn y Wyddgrug gyda'i frawd John. Gwasg John ac Evan Lloyd fu'n gyfrifol am gyhoeddi sylwebaeth Feiblaidd James Hughes (Iago Trichrug) a chyhoeddi un o'r papurau newyddion Cymraeg cynharaf, Cronicl yr Oes. Tua 1839 rhoddodd gorau i'w gwaith fel argraffydd a symudodd i Lundain lle fu'n gweithio i Adran Gyllid y wlad.[2]

Priododd Mary Jones, Y Wyddgrug 1 Ebrill 1834 [3]

Bu farw yn ei gartref 81 Carlton Hill, Llundain yn 79 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Kilburn.

Cyfeiriadau golygu

  1. "GENERAL NEWS - Flintshire Observer Mining Journal and General Advertiser for the Counties of Flint Denbigh". James Davies and Edward Jones Davies. 1879-05-16. Cyrchwyd 2020-10-22.
  2. "Family Notices - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1879-05-09. Cyrchwyd 2020-10-22.
  3. Y Cynniweirydd Cyf. I rhif. V - Mai 1834 tud 160; Priodasau