Evermeet
Mae Evermeet (sef Bythgwrdd yn y Gymraeg) yn ynys yn y byd dychmygol Forgotten Realms ('Teyrnasoedd Anghof') yn y gêm chwarae-rol ffantasiol Dungeons & Dragons ('Daeardai a Dreigiau') a leolir i'r gorllewin o gyfandir dychmygol Faerûn yn y Trackless Sea. Dyma ble yr aeth yr elffod (neu 'gorachod') yn ystod y Retreat.
Enghraifft o'r canlynol | ynys ffuglennol, fictional island country |
---|---|
Crëwr | Ed Greenwood |
Cyhoeddiadau
golyguLlyfr am Bythgwrdd oedd Elves of Evermeet, gan Anthony Pryor (1994), sef llyfr a seiliwyd ar ail gyhoeddiad y gêm 'Daeardai & Dreigiau' (AD&D Ail Gyhoeddiad).[1]
Bythgwrdd hefyd yw sail nofel Evermeet: Island of Elves, a sgwennwyd hefyd gan Elaine Cunningham.[2]
Disgrifiad
golyguMae Ynys Fythgwrdd yn cael ei rheoli gan y Frenhines Amlaruil Moonflower (Amlarwil Lloerflodyn), sy'n byw yn y brifddinas Leuthilspar (Lewthilspar), lle mae'n trigo llawer o deuluoedd pwysig fel y Durothils (Dwrothiliaid). Mae yna llawer o bobl sy wedi ceisio gorchfygu Bythgwrdd dros y blynyddoedd, sef y Swynwyr Cochion, y Zhentarim, drow (elffod tywyll) Faerûn, a môr-ladron Arfordir y Cleddyfau (Sword Coast).