Gwleidydd o Latfia yw Evika Siliņa (ganwyd 3 Awst 1975). Mae hi wedi gwasanaethu fel prif weinidog Latfia ers 15 Medi 2023, gan ddod yr ail fenyw yn y swydd honno.[1] Roedd hi'n Weinidog Lles yn yr ail gabinet Krišjānis Kariņš.[2] [3] Mae hi'n aelod o blaid wleidyddol Unity.

Evika Siliņa
Ganwyd3 Awst 1975 Edit this on Wikidata
Riga Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Latfia Latfia
Alma mater
  • Prifysgol Latfia Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
SwyddMinister for Welfare, Prif Weinidog Latfia Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUnity, Reform Party, New Unity Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of Princess Olga, 1st class Edit this on Wikidata

Cafodd Siliņa ei geni yn Riga. [4] [5] Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Latfia o 1993 i 1997, ac yn Ysgol y Gyfraith i Raddedigion Riga. [6] Priododd ag Aigars Siliņš; mae gan y cwpl dri o blant. [5]

Ar ôl ymddiswyddiad Krišjānis Kariņš, ar 16 Awst 2023, enwebodd New Unity Evika Siliņa fel ymgeisydd ar gyfer swydd y prif weinidog.[7] Ar 24 Awst, gofynnodd yr Arlywydd Edgars Rinkēvičs iddi ffurfio llywodraeth.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Saeima ar 53 balsīm apstiprina Evikas Siliņas valdību". www.lsm.lv (yn Latfieg). Cyrchwyd 15 Medi 2023.
  2. "Evika Siliņa is New Unity's party pick for PM". eng.lsm.lv (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Awst 2023.
  3. "Latvia Minister Silina Poised to Succeed Karins as Prime Minister". Bloomberg.com (yn Saesneg). 16 Awst 2023. Cyrchwyd 17 Awst 2023.
  4. "Parlamentārā sekretāre – Iekšlietu ministrija". 3 September 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Medi 2018. Cyrchwyd 17 Awst 2023.
  5. 5.0 5.1 "Evika Silina führt Lettlands neue Regierungskoalition". Die Presse (yn Almaeneg). 15 Medi 2023.
  6. "Evika Siliņa". 26 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2019. Cyrchwyd 17 Awst 2023.
  7. "«Jaunā Vienotība» oficiāli virza premjera amatam labklājības ministri Eviku Siliņu". www.lsm.lv (yn Latfieg). Cyrchwyd 17 Awst 2023.
  8. Presse, AFP-Agence France. "Latvian Minister Asked To Take PM Role". www.barrons.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Awst 2023.